send link to app

Gêm Sillafu


4.4 ( 544 ratings )
게임 교육 교육 단어
개발자: Atebol Cyfyngedig
0.99 USD

Amcan y Gêm Sillafu yw ir chwaraewr gwblhau cynifer o frawddegau ac sydd yn bosibl, cyn ir amser ddod i ben.
Maer chwaraewyr yn cwblhau brawddeg trwy lusgor blwch llythyren ir blwch amlinell cywir yn y drefn gywir. Am bob llythyren gywir, maer chwaraewr yn cael 5 o bwyntiau ac yn cael bonws ychwanegol o 100 o bwyntiau am gwblhau pob brawddeg. Ar ôl i frawddeg gael ei chwblhau yn gywir fe fydd tic yn ymddangos wrth yr ateb ac fe fydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos yn awtomatig.
Yn ychwanegol ir bonws am gwblhaur frawddeg maer chwaraewr yn cael bonws amser syn weindior cloc yn ôl, maer bonws yma yn lleihau gyda phob ateb hyd nes na fydd unrhyw fonws am ateb cwestiwn.
Ar ddiwedd y gêm, os ywr chwaraewr wedi ennill digon o bwyntiau fe fyddan nhw’n ymddangos ar y sgôrfwrdd.
Fe all y chwaraewr ddewis o wahanol gemau yn cynnwys, Curor Cloc (Cwestiynau Arferol), Un, Dau, Tri (Cwestiynau Mathemateg), Beth ywr Cwestiwn? a Her a Hanner.